|
Rhif y ddeiseb: P-06-1461 Teitl y ddeiseb: Cael gwared ar y 'Gweithredoedd Sylfaenol' a’r gostyngiadau arfaethedig mewn taliadau o dan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy Geiriad y
ddeiseb: Bydd y cynnig i’w gwneud yn
‘ofynnol plannu 10% o orchudd coed a throi 10% o dir
cynhyrchiol yn dir cynefin yn arwain at ostyngiad amlwg o 20% a mwy
yn y bwyd sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru, colli swyddi a
throsiant cyffredinol o fusnesau, a hynny mewn diwydiant sydd
eisoes mewn cyni. Bydd hyn yn ei dro yn cael effaith enfawr ar
fusnesau gwledig, ar gymunedau, ac ar safonau byw cyffredinol
teuluoedd. Rhagor o fanylion Yn ôl amcanestyniadau’r Gwasanaeth
Datblygu a Chynghori Amaethyddol:
|
Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (CFfC neu 'y cynllun') yw polisi amaethyddol newydd arfaethedig Llywodraeth Cymru – i ddisodli system gymorth Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) yr UE ar gyfer ffermwyr.
Mae system y PAC wedi’i chynnal i raddau helaeth yng Nghymru ers i’r DU ymadael â’r UE, wrth i’r cynllun newydd gael ei ddatblygu. Yn ystod y cyfnod hwn, bu ymgynghoriadau lluosog ac ymarfer cyd-ddylunio ar y cynllun.
Mae cynigion y CFfCyn wyriad sylweddol oddi wrth Gynllun y Taliad Sylfaenol (taliadau uniongyrchol) o dan y PAC, gyda mwy o bwyslais ar wobrwyo am nwyddau cyhoeddus, megis camau amgylcheddol gofynnol. Yn debyg i’r PAC, byddai’r penderfyniad i ymuno â'r cynllun yn ddewisol. Bwriad y CFfC yw gwobrwyo ffermwyr am gymryd camau gweithredu yn seiliedig ar amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy (a restrir yn Neddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023) i wneud y canlynol:
1. cynhyrchu bwyd a nwyddau eraill mewn modd cynaliadwy;
2. lliniaru ac addasu i newid yn yr hinsawdd;
3. cynnal a gwella gwytnwch ecosystemau a'r manteision maent yn eu darparu; a
4. chadw a gwella cefn gwlad ac adnoddau diwylliannol a hyrwyddo mynediad y cyhoedd iddynt a’u hymgysylltiad â hwy, a chynnal y Gymraeg a hyrwyddo a hwyluso ei defnydd.
Roedd yr ymgynghoriad diweddaraf, a gaeodd ym mis Mawrth 2024, yn cynnwys strwythur haenog y cynllun. Byddai'n ofynnol i bob ffermwr sy'n cymryd rhan yn y CFfC gyflawni 17 o 'Weithredodd Sylfaenol' (y mae nifer ohonynt yn weithredoedd amgylcheddol) er mwyn cael y 'Taliad Sylfaenol Cyffredinol'. Yna, yn seiliedig ar hynny, byddai gweithredoedd 'Opsiynol' a 'Chydweithredol' yn fodd iddynt gael eu gwobrwyo ymhellach. Byddai’r gweithredodd hyn yn fwy cymhleth ond ni fyddent yn orfodol. Mae rheolau’r cynllun, sy’n ofynnol i’r rhai sy’n cymryd rhan, yn cynnwys:
§ o leiaf 10 y cant o bob fferm yn cael ei reoli fel cynefin; ac
§ o leiaf 10 y cant o dan orchudd coed fel coetir neu goed unigol.
Roedd y fethodoleg arfaethedig ar gyfer taliadau o dan y cynllun yn seiliedig ar gostau a ysgwyddir ac incwm a gollir, yn ogystal â thaliad cymdeithasol ychwanegol. Fodd bynnag, nid yw'r gyllideb na graddfeydd y taliadau ar gyfer y cynllun yn hysbys eto. Nododd yr ymgynghoriad y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau o leiaf yr un lefel o gyllid gan Lywodraeth y DU â’r hyn a welwyd yn 2024/25.
Mae’r cynigion wedi ysgogi adwaith cryf gan y diwydiant ffermio. Mae pryder ynghylch y fethodoleg ar gyfer taliadau a’r gyllideb bosibl. Mae’r undebau ffermio yn pryderu y bydd yr 17 o Gamau Gweithredu Cyffredinol yn rhy feichus a biwrocrataidd. Maent yn cwestiynu dichonoldeb y cynigion ar gyfer systemau ffermio gwahanol.
Croesawodd grwpiau amgylcheddol uchelgais amgylcheddol y cynllun, ond roeddent o’r farn bod angen i’r cynllun weithio i ffermwyr er mwyn sicrhau eu bod yn cymryd rhan. Lleisiwyd pryderon hefyd am y fethodoleg ar gyfer y taliadau.
Mae rheolau'r cynllun sy'n nodi’r gofynion am orchudd coed a rheoli cynefinoedd wedi bod wrth wraidd y dadleuon. Mae rhai ffermwyr yn pryderu y gallai’r gofynion hyn arwain at dynnu gormod o dir allan o gynhyrchiant amaethyddol, gan olygu y byddant yn rhwystr rhag ymuno â'r cynllun. Mae Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill (fel y Rhwydwaith Ffermio Cyfeillgar i Natur a grwpiau amgylcheddol) wedi dadlau y gallai rheolau'r cynllun gael eu hintegreiddio mewn systemau amaethyddol, gan arwain at fuddion o ran cynhyrchiant amaethyddol. Er enghraifft, gallai coed weithredu fel lleiniau cysgodi a lliniaru llifogydd.
Mae rhai ffermwyr yn pryderu nad oes digon o gymorth ar gyfer cynhyrchu bwyd, a bod hyn yn fygythiad o ran diogelwch bwyd. Safbwynt Llywodraeth Cymru yw y bydd cefnogi gwell rheolaeth amgylcheddol yn gwella cynhyrchiant bwyd, gan eu bod yn mynd law yn llaw. Roedd Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig blaenorol, o’r farn na ddylid categoreiddio bwyd fel nwydd cyhoeddus gan fod gwerth iddo ar y farchnad. Yn sgil hynny, roedd o’r farn na ddylai bwyd gael ei ariannu’n uniongyrchol gan y wladwriaeth. Yn hytrach, nod dyluniad y cynllun oedd cefnogi ffermwyr a chynhyrchiant bwyd drwy'r amrywiol gamau ar gyfer rheoli tir yn gynaliadwy.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganlyniadau’r gwaith modelu a wnaed gan ADAS (y cyfeirir atynt yn y ddeiseb hon), sy’n awgrymu y byddai'r cynllun yn creu tua 26,000ha o gynefin lled-naturiol newydd a 28,000ha o goetir newydd, ond hefyd yn arwain at leihad o £199 miliwn yng nghyfanswm incwm ffermydd a lleihad o £125 miliwn yng nghyfanswm eu hallbwn. Mae’r gwaith modelu hefyd yn dangos y byddai unedau da byw yn gostwng 122,000 a llafur ar ffermydd yn gostwng 11 y cant. Mae NFU Cymru yn dweud y gallai hyn fod gyfystyr â cholli 5,500 o swyddi.
Mae'r gwaith modelu yn "dangos y canlyniadau gwaethaf", ac mae cafeatau sylweddol ynghlwm â’r gwaith hwn. Mae Huw Irranca-Davies AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, yn nodi yn ei lythyr ynghylch y ddeiseb hon fod gwaith modelu ADAS yn seiliedig ar fersiwn gynharach o’r cynllun. Disgwylir gwaith modelu pellach.
Mae Ymchwil y Senedd wedi llunio erthygl a briff ymchwilhirach ar gynigion y CFfC, ac ymateb rhanddeiliaid.
Cafodd yr ymgynghoriad diweddaraf ei ddisgrifio fel y “cam olaf” cyn cyflwyno’r cynllun yn 2025. Fodd bynnag, yn dilyn ymateb cryf gan ffermwyr, ym mis Mai, cyhoeddodd Huw Irranca-Davies AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, y byddai oedi cyn cyflwyno’r cynllun – o 2025 i 2026.
Bydd “Cam Paratoi ar gyfer y CFfC” bellach yn cael ei gynnal yn 2025. Mae Bord Gron Weinidogol ar gyfer y CFfC, sy'n cynnwys rhanddeiliaid, wedi'i sefydlu ar gyfer ymgynghoriad pellach. Diben a chwmpas y Ford Gron yw adolygu a thrafod y blaenoriaethau ar gyfer haenau Cyffredinol, Dewisol a Chydweithredol yr CFfC, ynghyd â rheolau’r cynllun (gan gynnwys y gofynion sy’n ymwneud â lleiafswm o 10%), y meini prawf cymhwystra, a’r fethodoleg ar gyfer taliadau.
Mae dau is-grŵp – y Panel Adolygu Tystiolaeth ynghylch Atafaelu Carbon a Gweithgor Swyddogion y SFS – hefyd yn bwydo i mewn i’r Ford Gron Weinidogol.
Mae cynlluniau dros dro ar gael yn ystod y cyfnod hwn, megis y Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig newydd, ynghyd â Chynllun y Taliad Sylfaenol.
Mae rhagor o fanylion am y cam nesaf i’w gweld yn 'Ein hymateb ni' (ymateb Llywodraeth Cymru, ym mis Gorffennaf 2024, i’r ymgynghoriad ynghylch y CFfC). O ran y camau nesaf, mae'n dweud:
Nid oes penderfyniadau manwl ar ddyluniad y Cynllun Ffermio Cynaliadwy wedi'u gwneud eto. Rydym yn deall y pryderon a godwyd yn y broses ymgynghori, ac mae'n amlwg y bydd angen newid y Cynllun cyn ei fabwysiadu.
Byddwn yn parhau i weithio gyda'r Ford Gron Weinidogol a'i his-grwpiau a ddisgrifir uchod i ddatrys yr heriau sy'n weddill cynllunio'r Cynllun terfynol.
Rydym yn disgwyl diweddariadau achlysurol gan y Ford Gron drwy'r flwyddyn.
Disgwylir i fanylion y cynllun terfynol gael eu cyhoeddi yn nhymor yr haf 2025.
Mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig (ETRA) a’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith (CCEI) wedi cynnal ymchwiliadau i’r CFfC.
Gwnaethoch drafod P-06-1388 Dileu’r gofyniad i ffermwyr gael o leiaf 10 y cant o orchudd coed i allu manteisio ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd.Cafodd y ddeiseb ei chyfeirio at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig i'w thrafod fel rhan o'i waith ar y CFfC.
Mae sawl dadl ar y CFfC wedi’u cynnal yn y Cyfarfod Llawn (er enghraifft, y ddadl ar 28 Chwefror 2024).
|
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol. |